Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Meeting Venue: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Meeting date: |
Dydd Mawrth, 4 Hydref 2011 |
|
|||
|
|
||||
Meeting time: |
09: - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
This meeting can be viewed on Senedd
TV at:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Concise Minutes: |
|||||
|
|
|
|||
Assembly Members: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar Mike Hedges Julie Morgan Gwyn Price Jenny Rathbone Aled Roberts Leanne Wood |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Witnesses: |
|
Thomas, Auditor General for Wales, Wales Audit Office Dave Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hyn Cymru Rebecca Stafford, Policy Officer, Older People's Commissioner Sarah Stone, Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hyn Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Committee Staff: |
|
Bethan Webber (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Ymddiheuriadau a dirprwyon
2. Materion sy'n ymwneud â Llywodraethiant ac Atebolrwydd Archwilydd Cyffredinol Cymru
2.1 Cafodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen ei sefydlu gan y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.17 i ystyried materion llywodraethiant ac atebolrwydd mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor mai cylch gorchwyl y Grŵp Gorchwyl a Gorffen fydd cynghori’r Cynulliad ynghylch penodi archwilwyr i edrych ar gyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru; ystyried amcangyfrif a chyfrifon blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru; ystyried materion ynghylch llywodraethiant ac atebolrwydd Archwilydd Cyffredinol Cymru; ystyried materion ynghylch enwebu Archwilydd Cyffredinol Cymru; ac ystyried materion eraill a drosglwyddir i’r grŵp gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor mai cyfnod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen fydd y flwyddyn Cynulliad o 2011 i 2012, a daw i ben ar 20 Gorffennaf 2012.
2.4 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cynnwys yr Aelodau a ganlyn: Darren Millar AC, Mike Hedges AC, Aled Roberts AC a Leanne Wood AC. Cafodd Darren Millar ei ethol yn Gadeirydd gan y Pwyllgor, ond bydd y rôl hon yn cael ei rhannu gan yr Aelodau.
3. Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai
3.1 Croesawyd Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; Sarah Stone, Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru; a Rebecca Stafford, Swyddog Polisi, i gyfarfod y Pwyllgor.
3.2 Hefyd, croesawyd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Dave Thomas o Swyddfa Archwilio Cymru, i’r cyfarfod.
3.3 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ddarparu:
· gwybodaeth ychwanegol am ganfyddiadau’r adroddiad ar urddas mewn gofal;
· canlyniadau’r gwerthusiad o gynllun Robin yn y Gogledd; a
· gwybodaeth ychwanegol am arferion da sy’n cael eu rhoi ar waith gan ysbytai, yn enwedig y model cadw tŷ.
Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu:
· crynodeb o arferion da.
Papur i'w nodi
Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 5 yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi).
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.